Cefnogi eraill
Cefnogi pobl yn eich cymuned
Beth allwch chi ei wneud i leihau troseddau ar drothwy'r drws? Wel, mae gan bawb rôl i'w chwarae – yr heddlu, Safonau Masnach, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, cymdogion a pherthnasau. Ynghyd gallwn wneud gwir wahaniaeth yn y gymuned drwy helpu i ddiogelu'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed. Felly, meddyliwch am beth y gallwch chi ei wneud?
Gweithwyr Proffesiynol
Efallai eich bod yn ddarparwr gwasanaeth neu'n yrrwr nwyddau. Efallai eich bod yn wirfoddolwr. Efallai eich bod yn werthwr neu'n fasnachwr cyfreithlon sy'n gwneud eich busnes o ddrws i ddrws. I weld sut y gallwch chi helpu, i gael cyngor a chanllaw ar y gyfraith ac arfer gorau, cysylltwch â Safonau Masnach Cymru.
Safonau Masnach Cymru
Mae yna 22 Tîm Awdurdod Lleol yn cydweithio ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau sydd wedi'u cydlynu, sy'n gyson ac wedi'u gwella i fusnesau a defnyddwyr. Rydym yn darparu cyngor arbenigol i ddefnyddwyr i atal troseddau gan fasnachwyr twyllodrus ac yn cynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i fusnesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Defnyddwyr.
Ewch i www.tradingstandardswales.org.uk.
Banciau, Swyddfeydd Post a Chymdeithasau Adeiladu
Os ydych yn gweithio gyda chyfrifon cynilo, byddwch yn wyliadwrus am gwsmeriaid sy'n ymddwyn fel bod ofn arnynt, fel eu bod wedi drysu neu os byddant yn ymddwyn yn wahanol i'r arfer. Fe allai fod masnachwr twyllodrus yn eu gorfodi i wacau eu cyfrif. Os ydych yn amau troseddu, dywedwch wrth yr awdurdodau.
Cymdogion a Theulu
Os yw'n gymydog, rhiant neu fam-gu neu dad-cu, mae pob un ohonom yn adnabod perthynas neu gymydog hŷn a fydd yn fwy agored i niwed na'r rhan fwyaf o bobl o ran masnachwyr twyllodrus a byrgleriaid gwrthdynnu sylw. Cadwch lygad arnynt, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am y cynllun tri cham a gwirfoddolwch i fod yn Gymydog Enwebedig iddynt.
