Adref

Os ydych yn eu hamau, cadwch nhw allan.

Helpwch ni i fynd i'r afael â throseddau trothwy'r drws yng Nghymru a throsglwyddo ein neges i bobl a allai gael eu targedu gan fasnachwyr twyllodrus a byrgleriaid gwrthdynnu sylw creulon.

Mae ein neges yn un syml – os ydych yn eu hamau, cadwch nhw allan. Hefyd, peidiwch ag ofni reportio unrhyw un sy'n amheus i'r heddlu. Ffoniwch yr heddlu ar 101 i ddweud os ydych yn amau masnachwr twyllodrus neu ffoniwch 999 os oes masnachwr twyllodrus wedi cymryd arian gennych a'i fod dal yn eich cartref neu yn yr ardal leol. Dylech hefyd ffonio 999 os credwch fod rhywun yn fyrgler gwrthdynnu sylw.

Mae angen i bawb reportio'r gweithgareddau hyn. Er bod galwr digroeso wedi gadael trothwy eich drws chi, fe all dargedu pobl eraill yn eich cymuned o hyd. Dywedwch wrth yr Heddlu am unrhyw un sy'n 'gymeriad amheus'.

O ble daeth yr ymgyrch hon?

Mae asiantaethau a sefydliadau amrywiol gan gynnwys yr heddlu a thimau safonau masnach yn cydweithio i ymateb ar lefel Cymru gyfan i broblem masnachwyr twyllodrus a byrgleriaid gwrthdynnu sylw mewn cymunedau a'r ffaith nad ydynt yn cael eu reportio yn ddigonol.

Maent yn gweithio gyda chymunedau sydd â rhesymau dilys dros alw ar drothwy'r drws er mwyn sicrhau fod pobl heb reswm dilys yn cael eu targedu.

Mae'r wefan hon yn cael ei hariannu gan y Grŵp Troseddau Trothwy'r Drws Cymru Gyfan.

Rhowch eich adborth i ni drwy gymryd rhan yn ein arolwg cyflym.

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru Logo
  • Penaethiaid Safonau Masnach Cymru
  • Age Cymru logo
  • Scambusters logo
  • Heddlu De Cymru logo
  • Heddlu Dyfed-Powys logo
  • Heddlu Gogledd Cymru logo
  • Heddlu Gwent Police logo

Galwyr digroeso

Byddwn yn eich cyflwyno i wahanol triciau, felly byddwch yn barod.

Darllen mwy

Straeon go iawn

Darganfyddwch sut oer yn effeithio galw ar fywydau pobl.

Darllen mwy

Cael Adobe Flash chwaraewr

Mae'r dudalen hon yn ei gwneud yn ofynnol fersiwn Flash Player 9.0.124 neu uwch.