Astudiaeth Achos
Stori Wir
Heddlu, teulu, ffrindiau a chymdogion – mae gan bawb rôl i'w chwarae o ran lleihau troseddau trothwy'r drws. Nid yw'n effeithio ar unigolion yn unig, gall effeithio ar gymunedau cyfan.
Elsie
Yn siarad am ei phrofiad o ddelio â masnachwyr ffug.
Donald
Yn siarad am ei brofiad o gael ei dwyllo gan 'sgam'.
David
Yn siarad am brofiad ei fam o alwadau diwahoddiad a'r effaith a gafodd arni hi a'r teulu.
Ditectif Arolygydd Huw Thomas
Yn siarad am achos Cornock.
Stori'r Preswylydd
Galwodd dyn wrth fy nrws yn dweud ei fod yn gwneud gwaith yn yr ardal a'i fod wedi sylwi fod angen rhai atgyweiriadau ar y dreif. Roedd yn gyfeillgar, yn hawdd i'w gredu ac fe roddodd ddyfynbris o £1,800 i mi oedd yn swnio'n ddigon rhesymol.
Wrth i'r hen ddreif gael ei godi, dywedodd fod problem gyda'r sylfeini oherwydd bod y ddaear yn feddal. Pris datrys hyn fyddai £4,000 ac roedd yn mynnu cael ei dalu ag arian parod. Ro'n i'n teimlo bod gen i ddim dewis ond talu am fy mod mewn sefyllfa amhosibl. Oherwydd fy oedran a phroblemau gyda fy iechyd roedd angen i mi gael mynediad hawdd i'r tŷ ac roedd hyn yn amhosib am fod y dreif mewn llanastr llwyr.
Fodd bynnag, ni wnaeth y masnachwr wneud y gwaith ychwanegol ei hun, roedd fod i dalu contractwr arall, ond ni wnaeth. Felly daeth y contractwr arall i'r tŷ yn mynnu cael y £4,000 yr oeddwn eisoes wedi talu i'r masnachwr. Roedd y cyfan yn straen mawr ac fe aeth y sefyllfa allan o reolaeth yn llwyr. Do'n i ddim yn gwybod beth i'w wneud, felly cysylltais â'r Cyngor Lleol. Roedd y bobl yno yn ardderchog. Roeddent yn deall fy helynt ac fe aethant ati i weithio ar yr achos yn gyflym. Alla i ddim diolch digon i dîm Scambusters.
Stori Scambusters
Daeth y tîm ynghlwm â'r sefyllfa pan wnaeth awdurdod lleol gysylltu â ni. Roedd aelod o'r cyhoedd wedi cysylltu â hwy ynghylch gwaith oedd wedi'i gwblhau gan alwr nas archebwyd ar drothwy'r drws. Roeddent yn gofidio'n fawr iawn am fod y gwaith wedi costio llawr mwy na'r dyfynbris gwreiddiol.
Roedd hwn yn ddi–os yn achos o dwyll am fod y masnachwr wedi cytuno ar bris cytundeb ar gyfer gosod dreif brics yn y cartref ond nid oedd wedi rhoi hawliau canslo i'r cwsmer ar adeg y dyfynbris. Hefyd, yn ystod y gwaith cafodd y pris ei godi'n ddiangen er mwyn ceisio twyllo'r cwsmer a chael pris yn uwch am y gwaith.
Wrth i ni ymchwilio i'r achos, gwnaeth ein hymholiadau ddarganfod nifer o droseddau tebyg gan yr un masnachwr yn yr ardal gyfagos. Felly, lansiodd yr awdurdod lleol ymholiad swyddogol i sefydlu a oedd troseddau wedi'u cyflawni o ran masnachu annheg, methu â datgelu gwybodaeth, a chanslo cytundebau ac enwau busnes.
Mae nifer o fasnachwyr yn targedu pobl sy'n hŷn neu â iechyd gwael am na allant ddod i'r llys i roi tystiolaeth yn aml. Dyma oedd y sefyllfa yn yr achos hwn. Fodd bynnag, rydym yn mynd i'r afael â'r broblem hon drwy drefnu cyswllt fideo byw i'r Llys neu drwy gyflwyno fideo wedi'i recordio o flaen llaw.
Casglwyd lawer o dystiolaeth oddi wrth breswylwyr eraill oedd wedi cael problemau gyda'r masnachwr, fe gafodd ei gyfweld a'i wysio ar unwaith. Derbyniodd y masnachwr ddirwy oedd yn nifer o filoedd o bunnoedd am gyflawni nifer o droseddau yn yr ardal leol.
