Bod yn barod

Cynllunio o flaen llaw

Yn ogystal â dilyn y cynllun tri cham bob tro, mae nifer o bethau y gallwch wneud er mwyn paratoi o flaen llaw a sicrhau na chewch eich dal gan alwr digroeso.

Cymydog Enwebedig

Gofynnwch i gymydog neu aelod o'r teulu yr ydych yn ymddiried ynddynt sy'n byw wrth ymyl i'ch cynorthwyo i wirio pwy yw'r bobl sy'n galw heb wahoddiad.

Cliciwch yma i lawrlwytho poster 'Cymydog Enwebedig' (PDF, 396kb) ac ysgrifennwch eu manylion yn y gofod a ddarperir. PEIDIWCH ag arddangos y poster yn eich ffenestr neu agor y drws i'w roi i rywun ar drothwy'r drws. Yn syml, dangoswch y poster drwy ffenestr neu ei wthio drwy'r blwch llythyron, fel bod y person yn gallu ymweld â'ch cymydog enwebedig.

Ffoniwch eich cymydog i ddweud fod rhywun ar y ffordd draw a sicrhewch eich bod yn cael cadarnhad ganddynt cyn eu gadael i mewn. Os na allwch gysylltu â'ch cymydog enwebedig cewch ffonio eich heddlu lleol ar 101 neu Gyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 040506.

Pobl sy'n galw gydag apwyntiad

Os ydych yn disgwyl rhywun i alw ar amser penodol, gofynnwch i'ch cymydog enwebedig fod gyda chi i wirio pwy ydynt.

Cynllun Cyfrinair

Mae gan nifer o gwmnïau nwy, dŵr a thrydan gynllun cyfrinair – cewch ddewis gair cofiadwy y byddant hwy a chi yn unig yn ei wybod. Os byddant yn dweud y cyfrinair wrthych, mae'n ddiogel eu gadael i mewn.

Felly, cynlluniwch o flaen llaw a chysylltwch gydag unrhyw sefydliad sy'n galw'n rheolaidd ar drothwy'r drws a gofyn am eu cynllun cyfrinair. Gallai'r rhain gynnwys cyflenwyr gwasanaethau lleol, gwasanaethau gofal, eich cyngor lleol neu wasanaeth Pryd ar Glud. Cofiwch beidio â dweud wrth unrhyw un arall beth yw'ch cyfrinair.

Rhifau Ffôn Defnyddiol

Cliciwch yna i lawrlwytho ffurflen er mwyn creu rhestr o rifau ffôn defnyddiol i'w cadw ger eich ffôn. (PDF, 69kb)

Safonau Masnach

Am ragor o wybodaeth a chyngor ynghylch masnachwyr twyllodrus, neu os ydych yn fasnachwr gonest sy'n edrych am ganllawiau ar sut i fasnachu o ddrws i ddrws, ewch i www.tradingstandardswales.org.uk neu ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 040506 i gael cyngor a gwybodaeth am unrhyw fath o broblem defnyddiwr.

Bod yn ymwybodol o'r Gyfraith

Nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o hyn, ond os ydych yn gofyn i rywun adael trothwy'r drws, maent yn cyflawni trosedd os na fyddant yn gadael neu os byddant yn dychwelyd. Mae gan yr heddlu hawl i'w harestio.

Hefyd, gellir arestio masnachwyr twyllodrus o dan y drosedd newydd o dwyll. Er enghraifft, maent yn cyflawni twyll o dan Gynrychiolaeth Ffug os ydynt yn dweud fod to mewn cyflwr peryglus a bod angen ei atgyweirio, os yw'r to mewn cyflwr hollol iawn. Maent hefyd yn cyflawni twyll drwy Fethu â Datgelu os byddant yn peidio â dweud rhywbeth y mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i'w wneud, fel masnachwr cynnal a chadw tŷ yn methu â darparu hysbysiad canslo cywir.

Rhagor o gymorth a chyngor

Ffoniwch eich cyngor lleol neu eich Tîm Plismona Cymdogaeth am gyngor a gwasanaethau am ddim a fydd yn gwella diogelwch eich cartref.

Delio â galwyr digroeso ar y ffôn

Dim galwyr digroeso ar drothwy'r drws sy'n achosi problemau'n unig. Mae llawer o dwyllwyr yn targedu pobl dros y ffôn y dyddiau hyn. Eto cofiwch mai chi sy'n rheoli'r sefyllfa. Peidiwch â rhoi manylion unrhyw rai o'ch cyfrifon cyfredol neu gynilo. Peidiwch ag ofni rhoi'r ffôn i lawr ar bobl sy'n eich galw heb wahoddiad.

Pa driciau maent yn eu defnyddio?

Mae triciau poblogaidd yn cynnwys dweud eich bod wedi ennill y loteri mewn gwlad arall a bod angen i chi dalu ffi er mwyn derbyn y wobr. Yn anhygoel, mae ymchwil gan y Swyddfa Masnachu Teg yn dangos fod defnyddwyr yn y DU yn colli £350 miliwn bob blwyddyn oherwydd cynlluniau cystadleuaeth gwobrau, loteri tramor a dweud ffortiwn yn unig.

Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol ei fod! Mae triciau eraill yn cynnwys benthyciad am ddim i waredu eich dyledion os gwnewch dalu ffi weinyddol yn syth. Does dim benthyciad, dim ond mwy o ddyled. Mae angen i chi hefyd fod yn wyliadwrus rhag pobl sy'n honni bod gennych ad-daliad treth cyngor yn ddyledus ac y byddant yn datrys y mater, am ffi wrth gwrs. Gwyliwch allan am y rhain a thriciau eraill dros y ffôn.

Os ydych yn amau fod galwad ffôn yn dwyll ffoniwch 101 neu Gyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 040506. I leihau nifer y galwadau ffôn diangen, cofrestrwch gyda'r gwasanaeth dewis ffôn ar 0845 070 0707 neu ar www.tpsonline.org.uk.