Troseddau Trothwy’r Drws
Delio â galwyr digroeso
Yn anffodus, nid yw pawb sy'n galw ar drothwy'r drws yn dweud yn onest pwy ydynt. Felly, byddwch yn wyliadwrus drwy'r adeg. Fe allai'r person ar drothwy'r drws fod yn hollol onest, yn fasnachwr twyllodrus neu hyd yn oed yn fyrgler gwrthdynnu sylw. Ond, peidiwch â phoeni. Os byddwch yn darllen ymlaen a dilyn ein cynllun tri cham, byddwch yn gwybod yn union beth i'w wneud. Bydd galwyr gonest yn hapus i aros wrth i chi wneud y gwiriadau perthnasol.
Gyda'n gilydd gallwn drechu galwyr digroeso
Os nad ydynt yn cael mynediad i'ch cartref chi, efallai y byddant yn parhau i guro ar ddrysau yn eich cymdogaeth tan eu bod yn darganfod rhywun sy'n fwy agored i niwed na chi. Os nad yw'r heddlu'n gwybod amdanynt – ni allant wneud dim. Felly, os oes rhywun yn galw ar drothwy eich drws, reportiwch y peth bob tro a ffonio 101 i helpu i ddiogelu eich cymuned.
Os cewch eich dal a bod galwr digroeso yn llwyddo i gael mynediad i'ch cartref, dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl. Does dim angen teimlo embaras, y gorau po gyntaf y cawn wybod amdano er mwyn eu dal a dychwelyd eich eiddo.
Y Cynllun Tri Cham
Cofiwch bydd galwyr gonest yn hapus i aros. Eich cartref chi ydyw. Does dim rhaid i chi adael neb i mewn!
Un. Os ydych yn eu hamau, cadwch nhw allan. Mae'n swnio'n syml, ond os na fyddwch yn gadael rhywun i mewn – byddant yn gadael. Peidiwch â gadael iddynt roi pwysau arnoch i agor y drws
Dau. Byddwch yn barod. Rhaid i chi reoli'r sefyllfa. Meddyliwch o flaen llaw am beth i'w ddweud wrth alwyr digroeso. Cadwch restr o rifau ffôn cyswllt ger eich ffôn er mwyn gallu gwirio pobl onest sy'n galw. Gofynnwch i bobl eraill nad ydych am iddynt aros eich gadael.
Tri. Ffoniwch gymydog neu'r heddlu. Cysylltwch â pherthynas leol neu gymydog enwebedig er mwyn gwirio galwr digroeso. Os ydych yn credu fod rhywun yn fasnachwr twyllodrus ffoniwch ni ar 101. I reportio byrgleriaeth gwrthdynnu sylw neu fasnachwr twyllodrus sydd wedi cymryd eich arian, ac sy'n dal i fod yn yr ardal – ffoniwch 999.
Troseddau Trothwy'r Drws yng Nghymru
Mae llai na 1% o bobl yng Nghymru yn dioddef bob blwyddyn, ond mae'n broblem sy'n arwain at bobl yn colli'r holl arian y maent wedi cynilo ar hyd eu bywydau, ac mae dioddefwyr troseddau trothwy'r drws yn cael eu gadael yn teimlo'n isel eu hysbryd ac yn ynysig.
